

Amdanom Ni
​Mae Hwb Llanni wedi'i ddatblygu fel canolfan gymunedol i bobl Llannerch-y-medd.
Mae ar agor ar gyfer amryw o ddigwyddiadau Addysgol, Adloniant, Teuluol ac Ysbrydol.
Gobeithiwn y bydd holl bobl Llannerch-y-medd yn dod i Hwb LlanNi ac yn mwynhau'r hyn sydd ganddo i'w gynnig.
My Story

Mae Hwb LlanNi wedi'i ddatblygu o fod yn siop gynt i fod yn ofod amlswyddogaethol er mwyn gallu cynnal digwyddiadau, gweithgareddau, partïon neu unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol arall i drigolion lleol Llannerch-y-medd.
Ein nod yw darparu mannau cyfforddus a modern a all fodloni llawer o anghenion o ddosbarthiadau Tai Chi i ymarfer côr. Lle i ymgynnull a sgwrsio wrth gadw draw o'r oerfel neu gynnal sawl dosbarth TG mewn partneriaeth â'r coleg lleol.
Does dim terfyn ar yr Hwb a byddem yn annog unrhyw un sydd â syniadau ar sut i ddefnyddio'r gofod i gysylltu. Mae'r prisiau'n rhesymol iawn, a gallwn ddarparu ar gyfer nifer eithaf mawr o bobl.
Ar hyn o bryd mae gennym un lle mawr ym mlaen yr adeilad yn ogystal ag ystafell gyfarfod yn y cefn ynghyd â chegin fach a thoiled sydd i gyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Cysylltu
Gellir cysylltu â ni drwy wahanol lwyfannau neu'n uniongyrchol drwy e-bost





