top of page

Grŵp Cymuned

LlanNi

Amcanon y grŵp yw:-

  • adnabod a helpu gwireddu prosiectau y teimla’r gymuned eu bod yn bwysig

  • annog ysbryd cymunedol trwy gynnwys preswylwyr lleol, a

  • bod yn ysgogydd datblygu cymunedol. 

 

 

Eginodd syniad grŵp yn ôl yn 2018 wedi cysylltu ag Adrian Roberts o Severn Wye, a oedd yn cyflawni’r rhaglen Dyfodol Gwledig ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. 

 

Yn Ionawr 2019 cynaliasom achlysur ‘Stiwdio Stori Dyfodol Gwledig’ yn neuadd yr ysgol er mwyn cyflwyno’r syniad a chael peth ymateb cymunedol. Daeth cyfanswm o 121 o bobl i’r achlysur hwnnw, a bu’r ymateb yn gadarnhaol iawn.

 

Oddi yno, symudodd grŵp ohonom ymlaen â rhai o’r syniadau, ac yn Rhagfyr 2019 bu inni rannu rhagor o holiaduron o gwmpas y pentref er mwyn mesur diddordeb mewn sawl prosiect posibl a awgrymwyd, a chefnogaeth ar eu cyfer. Erbyn Ebrill 2020 daeth LlanNi yn gwmni cofrestredig cyflawn cyfyngedig trwy warant.

Llan.png

Cenhadaeth a Gweledigaeth

Y flwyddyn ddiwethaf rydym ni, fel pawb arall, wedi ein llesteirio gan Covid-19 a’i gyfyngiadau, ond bu grŵp creiddiol yn gweithio ar bedwar prif brosiect. Mae’r tri cyntaf yn gysylltiedig â Dyfodol Gwledig, a’r pedwerydd yn derbyn cefnogaeth gan Adfywio Cymru.

 

       1. Gwefan LlanNi – i fod yn llwyfan ar gyfer pob grŵp cymunedol yn Llannerch-y-medd ac yn cynnig gofod am ddim i fusnesau lleol. Fel y gwelwch, mae hon yn weithredol eisoes!

       2. Posibilrwydd Hwb Gymunedol / gweithdy / caffi trwsio, yn gyfle i annog pobl i ddod at ei gilydd i rannu neu ddysgu medrau presennol a newydd.

       3. Prosiect cafnau plannu pentrefol, yn galluogi pobl i ymuno mewn dysgu sut i’w llunio a’u cynnal.

       4. Posibilrwydd gosod man gwefru cerbydau trydan ym maes parcio’r orsaf.

  

Mae cryn arian ar gael gan Ddyfodol Gwledig i gefnogi’r tri phrosiect cyntaf, ond er mwyn llwyddo i’w hawlio mae angen inni ddarparu tystiolaeth fod y gymuned yn llwyr gefnogi’r syniadau, a Grŵp LlanNi Cyf.

Ymgynghori ac Adborth

Mae LlanNi’n fodlon iawn hyrwyddo gobeithion a dyheadau ein pentref hanesyddol ni, Llannerch-y-medd, a fu unwaith yn brif dref farchnad Môn. Gobeithiwn helpu ein pentref i adennill balchder y gorffennol a dathlu a hyrwyddo’r sgiliau a’r ewyllys da at ein gilydd sydd gan Lannerch-y-medd yn anad unman arall.

 

Mae’n bwysig ar gyfer dyfodol y grŵp inni ymgynghori rhagor â phreswylwyr Llannerch-y-medd a chael adborth ganddynt. Mae’r grŵp hwn yma i fwrw ymlaen â syniadau y mae’r gymuned yn penderfynu eu bod yn bwysig, ac er mwyn gwneud hynny, mae arnom angen i ragor o bobl ddod ymlaen ac ymuno â Grŵp LlanNi Cyf. Mae gennym ddiddordeb mewn pob agwedd ar fywyd pentrefol, ar gyfer pob oedran ac abledd.

 

Byddai eich cyfraniad a’ch cefnogaeth yn werthfawr, ac fe’u gwerthfawrogid yn fawr.

 

Os hoffech fod â rhan, cysylltwch â ni trwy un o’r dulliau a restrir yma, os gwelwch yn dda.

 

Dewch ymlaen – dewch inni afael yn y cyfle hwn i gael y buddsoddiad y mae cymaint o’i angen ar ein pentref, ac sydd mor haeddiannol.

bottom of page