Dyfodol Gwledig
Beth yw Dyfodol Gwledig?
Prif amcan rhaglen Dyfodol Gwledig, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yw helpu cymunedau i ddatblygu eu syniadau eu hunain ar gyfer mynd i’r afael â rhai o’r heriau mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu, a gwneud y gorau o gyfleoedd lleol, boed hynny’r dirwedd, hanes yr ardal, neu sgiliau, gwybodaeth ac egni’r preswylwyr.
Mae Dyfodol Gwledig yn helpu 14 cymuned ledled y Gymru wledig. Dechreuodd y rhaglen chwe blynedd yn 2017 a rhed yn gyfochrog â Rhaglen Wledig ehangach Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae Llannerch-y-medd a Llanfechell ymysg y cymunedau fu yn y rhaglen er 2017, efo Bryngwran a Gwalchmai wedi ymuno yn 2020.
Arweinir ein gwaith gan anghenion a dyheadau’r cymunedau rydym yn eu cynorthwyo. Gweithiwn ag aelodau a rhanddeiliaid y gymuned i helpu adnabod achosion sylfaenol problemau a sut orau i greu atebion cynaliadwy. Gall hyn gynnwys eu helpu i gofnodi asedau lleol ac edrych ar sut y gallant eu defnyddio i’r llawn er mwyn helpu â phroblemau yn eu hardal. Dymunwn helpu cymunedau i ddirnad a datblygu ymatebion i broblemau gwledig trwy ymgysylltu a gweithio’n agos â hwy. Amcanwn ychwanegu gwerth at y gwaith y mae cyrff a chynghorau lleol yn ei wneud eisoes, a meddwl am sut y gallwn ategu a gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael.
Mae arian penodol ar gael o dan Raglen Wledig ehangach CGLG ar gyfer pob un gymuned, ynghyd â grantiau bychain i helpu cymunedau i ddatblygu a phrofi syniadau. Ariennir gwefan LlanNI trwy un o’r grantiau bychain hyn.
Y Tîm Cyflawni
Mae Dyfodol Gwledig yn cael ei weithredu gan Severn Wye a Phartneriaeth BRO ar y cyd.
Mae Severn Wye yn elusen annibynnol ac yn gwmni nid-er-elw sydd â gweledigaeth o ddatblygu cymunedau lleol cynaliadwy a chadarn. Mae Partneriaeth BRO (BRO) yn arbenigo mewn pob agwedd ar ddatblygu cynaliadwy a chreu lleoedd, gan gynnwys ymgysylltu a galluogi cymunedol a rheoli adnoddau naturiol.
Llannerch-y-medd
Y swyddog dynodedig sy’n gweithio â chymuned Llannerch-y-medd yw Adrian Roberts (Severn Wye). Efallai y cofiwch Adrian o’r achlysur Stiwdio Stori a gynhaliwyd yn Neuadd y Gymuned yn Ionawr 2019. Ers hynny bu criw gweithgar o wirfoddolwyr lleol yn cyfarfod i fwrw ymlaen â’r prosiect.
Cyflwynwyd sawl syniad prosiect i’w hystyried, ond yn dilyn trafodaethau â’r Loteri Genedlaethol y tri oedd yn cyfateb orau â chanllawiau Dyfodol Gwledig oedd:
-
Creu hwb gymunedol / gweithdy / canolfan drwsio;
-
Prosiect cafnau plannu pentrefol, gan annog preswylwyr lleol i ddysgu sut i’w llunio a’u cynnal; a
-
Datblygu rhagor ar Wefan Pentref Llannerch-y-medd, i gynnwys elfennau y dymuna’r preswylwyr eu gweld.
Bellach rydym wedi cyrraedd y man lle mae Grŵp LlanNi Cyf. wedi’i gofrestru’n Gwmni Cyfyngedig Preifat wedi’i Gyfyngu trwy Warant. Mae mewn sefyllfa ddelfrydol i ymgeisio am y prif gymhorthdal Dyfodol Gwledig sydd ar gael i ddatblygu’r prosiectau a adnabuwyd hyd yn hyn.
Ond er mwyn i gais lwyddo, mae angen rhagor o gyfraniad a chefnogaeth gan y gymuned ei hun. Pregeth y Loteri yw “Pobl yn Arwain”, a dyna’n union yr ydym yn chwilio amdano!
Achubwch y cyfle hwn, os gwelwch yn dda, i gefnogi Grŵp LlanNi Cyf. ac i helpu gwireddu’r syniadau sydd wedi’u cynnig.