Syniad ynghylch grŵp hanes/archeoleg lleol fel y gall pentrefwyr a phobl leol plwyfi’r dalgylch (hen/newydd) rannu eu diddordeb yn hanes yr ardal leol.
Gobeithia’r grŵp ganolbwyntio ar hanes, treftadaeth ac archeoleg yr ardaloedd canlynol: Llannerch-y-medd, Llandyfrydog, Ceidio, Coedana a Charmel. Os pery diddordeb o ardaloedd eraill, gallem ehangu cylch yr ardal graidd.
O’i sefydlu, gobeithir y bydd cyfleoedd i gynnwys cyflwyniadau hanes lleol (tan arweiniad pobl leol neu haneswyr); teithiau treftadaeth y dref a’r cyffiniau; gweithdai (ymchwil hanes teuluol ac ati), a rhai prosiectau ymchwil (pobl/lleoedd nodedig a gwaith archeolegol).
Cydnabyddaf fod yna lawer o bobl leol sydd â diddordeb mewn hanes lleol ac yn dymuno ynteu rhannu eu gwybodaeth ag eraill neu ddysgu rhywbeth newydd. Mae’n gyfle, hefyd, i gyfarfod â phobl newydd, cydrannu diddordeb cyffredin ac ymuno mewn amryw weithgareddau hwyliog: felly cysylltwch, os gwelwch yn dda.
Mae tua 30 o aelodau ar hyn o bryd ond mae yna wastad groeso i ragor. Rhaid i aelodau fod yn 16 oed, o leiaf, ac ni chodir tâl aelodaeth.
Rydym yn hapus i gyhoeddi ein bod am ddychwelyd i gario ‘mlaen gyda’n gwaith archeolegol ar y Foel o’r 12fed Ebrill. Gobeithiwn, os bydd amgylchiadau’n caniatáu, i gynnal cyfres o sgyrsiau ar ein canfyddiadau, i’r gymuned eu mwynhau, tra hefyd yn arddangos ychydig o’r arteffactau anhygoel sydd wedi eu darganfod ar y safle er mwyn i bobl lleol gael eu gweld.
Gobeithir bydd y gwaith ar Y Foel a’r safle ‘Smithfield’ yn gallu gael eu cynnwys o fewn canolfan dehongli treftadaeth yn y pentref yn y dyfodol. Ymunwch â ni, fel y gallwn i gyd gyfrannu at y brosiect anhygoel yma!
Os oes gennych ddiddordeb, neu ryw wybodaeth a allai fod o ddiddordeb i eraill, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.