Bethan Williams
Rheolwr Practis
​
​Ffôn: 01248 470 213
Ebost: Routine.enquiriesw94029@wales.nhs.uk
​
Mae'r practis yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan gontract i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
​
Rydym yn gweithio o ddau safle. Lleolir y Brif Feddygfa ‘Meddygfa Coed Y Glyn’ yn nhref Llangefni ac mae’r Feddygfa Gangen ‘Meddygfa Glan Menai’ ym mhentref Llannerch-y-medd.
Rydym yn darparu gwasanaethau Dosbarthu ar y ddau o'n safleoedd.
​
Mae gennym rôl bwysig wrth edrych ar ôl cleifion yn eu cymuned a'u cartrefi. Mae ein rôl yn cynnwys hyrwyddo, atal a chychwyn triniaeth. Mae meddygon teulu yn gofalu am gleifion â salwch cronig, gyda'r nod o gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain a sicrhau eu bod cystal ag y gallant fod. Mae meddygon teulu yn trin cyflyrau meddygol cyffredinol ac yn cyfeirio cleifion i ysbytai a gwasanaethau meddygol eraill i gael triniaeth brys ac arbenigol lle bo’r angen
Oriau ar agor:
​
Llun 9:00yb – 12.30 yp 3.00 – 5.00 yp
Mawrth 9:00yb – 12.30 yp 3:00 – 5:00 yp
Mercher 9:00yb – 12.30 yp Ar gau
Iau 9:00yb – 12.30 yp Ar gau
Gwener 9:00yb - 12.30 yp 3:30 – 5.00 yp