Rheolwr Prosiect/Cydlynydd
Disgrifiad Rôl
Cyd-destun
Mae Grŵp LlanNi wedi derbyn cyllid ar gyfer prosiect Dyfodol Gwledig newydd o’r enw,
“Hwb LlanNi ”
Mae’r rhaglen Dyfodol Gwledig, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn cefnogi cymunedau i ddefnyddio eu cryfderau a’u cyfleoedd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n effeithio ar gymunedau gwledig yng Nghymru megis tai fforddiadwy, tlodi tanwydd a bwyd, diffyg cyflogaeth, yn ogystal fel mynediad at wasanaethau a thrafnidiaeth.
​
Mae gan Grŵp LlanNi dri nod: Lleihau tlodi, gwella iechyd a lles, a chreu cymuned ffyniannus.
​
Syniad y prosiect yw creu cyfleuster cymunedol modern gydag adnoddau a gweithgareddau. Bydd yr Hwb yn ganolbwynt ar gyfer cymuned gyfan Llannerch-y-medd.
Cydlynydd Prosiect Hwb LlanNi
Bydd y cydlynydd yn gyfrifol am redeg y brosiect o ddydd i ddydd.
​
Bydd cydlynydd hunangyflogedig prosiect yn cael ei reoli gan Dim Rheoli Grŵp LlanNi.
Disgrifiad o'r Rôl: Cytundeb Llawrydd 2 flynedd Cydlynydd Prosiect
Cyflog: £13 yr awr – 15 awr yr wythnos
Lleoliad: Hwb LlanNi
1. PWRPAS CYFFREDINOL Y SWYDD
Goruchwylio a chydlynu prosiect Hwb LlanNi
-
Datblygu a rheoli rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau.
-
Ymgysylltu â'r gymuned leol ac asiantaethau cymorth lleol.
-
Cefnogi cyfranogwyr a gwirfoddolwyr
​
2. PRIF GYFRIFOLDEBAU
-
Yn gyfrifol am redeg y prosiect o ddydd i ddydd, gan gynnwys monitro a gwerthuso yn unol â gofynion Loteri Fawr.
-
Sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Sicrhau bod cofnodion iechyd a diogelwch yn cael eu cadw’n ddiogel, gan gynnwys manylion cyswllt mewn argyfwng ar gyfer cyfranogwyr.
-
Sicrhau cydymffurfiaeth â'r GDPR.
-
Gweithio gyda'r Tim Rheoli i recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr
-
Mynychu cyfarfodydd i gefnogi ymgysylltiad cymunedol.
-
Cefnogi’r Tim Rheoli i weinyddu cyllideb i dalu costau rhedeg y prosiect
-
Creu cyfres o weithgareddau a hyfforddiant, gan sicrhau bod yr holl ddigwyddiadau a gweithdai yn hygyrch i bawb lle bo modd.
-
Cadw at yr holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol.
-
Bod yn hyblyg ar gyfer gwaith penwythnos a min nos gyda chefnogaeth gan wirfoddolwyr y brosiect.
-
Cyflawni'r holl ddyletswyddau eraill a bennir o bryd i'w gilydd gan y Tim Rheoli
Manyldeb Personol
​
Hanfodol
Gwybodaeth am Reoliadau Iechyd a
Diogelwch
Unigolyn brwdfrydig a hunan-gymhellol
Gallu i gydymffurfio a Pholisi Iaith
Y gallu i weithio'n unigol ac fel rhan o dîm
Profiad o ymgysylltu a gweithio gyda'r
cyhoedd
Gallu cysylltu â'r cyhoedd a phartneriaid.
Y gallu i greu rhaglen o weithgareddau
cymdeithasol a gwirfoddol
Sgiliau cyfathrebu da
Dymunol
Cymwys / profiadol mewn rheoli Prosiect
Profiad o gyflwyno digwyddiadau
cymunedol
Ymwybyddiaeth o bwrpasau Hwb LlanNi
Hyfforddiant iechyd a diogelwch.
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
Y gallu i siarad Cymraeg neu ymrwymiad i ddysgu hyd at level sylfaneol.
Profiad o weithio gyda chymunedau lleol,
gwirfoddolwyr ac ysgolion
Profiad o weinyddu prosiectau a ariennir
yn allanol.
Gallu defnyddio cyfrifiaduron ac yn
hyderus wrth ddefnyddio meddalwedd
Microsoft Office
Gwybodaeth am yr ardal a'i phobl.