top of page
Merched1.png
Mary Owens

​

​Ffôn:  01248 470 977

​​

Ebost: mowenskh@hotmail.com

  • Facebook
  • LinkedIn
  • Twitter
Merched-Logo.png

Mae Merched y Wawr Llannerch-y-medd yn cynnal nosweithiau lle’r ydym yn trafod amryw bethau fel hanes a lluniau lleol hanesyddol, neu lle mae aelodau’n arddangos gwaith celf. Mae amryw siaradwyr yn dod draw i gynnal trafodaethau arbenigol. Yn ogystal â hyn, mae gennym sesiynau arfer gwaith llaw, coginio, cwisiau, hobïau a llawer mwy. 

 

Mae gennym 24 o aelodau ar hyn o bryd, ond mae yna wastad groeso i ragor. Rhaid i aelodau fod yn 18 oed o leiaf, er bod y mwyafrif rhwng 60 a 93, ar hyn o bryd.

​

’Rydym yn cyfarfod yn fisol yng Nghapel Tabernacl rhwng 7:00 a 9:00 y nos. Y tâl aelodaeth presennol yw £18, sy’n cynnwys pedwar rhifyn o’n cylchgrawn chwarterol, “Y Wawr”. Er mwyn ymuno ’does ond angen i chi ddod draw.

Digwyddiadau’r Dyfodol

 

Mae gennym sawl achlysur ar y gweill ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, gan gynnwys:

  • Y swper Gŵyl Dewi blynyddol mewn gwesty

  • Taith gerdded noddedig pob Gorffennaf lle daw canghennau Môn at ei gilydd

  • Casglu arian ar gyfer elusen y flwyddyn

  • Gŵyl Fai flynyddol, gyda chantorion, darlith a chinio braf

  • Gwasanaeth carolau pob Rhagfyr efo amryw ganghennau’n ymuno ac yn codi pres ar gyfer elusen y flwyddyn.

 

Mae’r holl achlysuron arfaethedig hyn yn ddibynnol ar sefyllfa’r pandemig Covid-19.

bottom of page