Prosiectau Lleol
Gyda chymorth gan Dyfodol Gwledig a Menter Môn, mae Grŵp LlanNi wedi bod yn gweithio ar rhain, a mae’r siart yn dangos sut mae’r prosiectau’n datblygu a beth sydd angen ei wneud nesaf.
Cafnau Plannu
Gwella'r Golygfeydd
Gall y brosiect yma gynnwys grwpiau cymunedol ac unigolion i adeiladu cyfres o gafnau plannu deniadol i’w gosod o gwmpas y pentref. Bydd modd eu hadeiladu yn yr hwb/gweithdy cymunedol arfaethedig, a bysa’n gyfle gwych i bobl, ifanc a hÅ·n, i rannu a dysgu sgiliau newydd.
​
Bydd modd wedyn i grwpiau cymunedol, busnesau neu unigolion lleol i fabwysiadu, neu noddi y cafnau. Gall y Grŵp Gardd Gymunedol gynnig cyngor a gwybodaeth ar blannu. Byddai’r cafnau plannu’n ganolbwynt lliwgar, deniadol ac yn bywiogi’r pentref ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr sy’n teithio heibio.
Hwb Cymunedol
Lleoliad Canolog
Bydd yr Hyb wedi'i leoli yn yr hen siop piano yng nghanol y pentref. Bydd hyn yn rhoi man cyfarfod cyffrous, amlbwrpas i Llannerch-y-medd i ddysgu a rhannu sgiliau a gwybodaeth.
​
Mae cyfle i'r bobl leol ddweud eu dweud am yr hyn y gellid defnyddio'r gofod ar ei gyfer ac mae croeso i bob syniad. Mae er lles y gymuned.
​Gwefrydd Trydan
Gyfeillgar i'r Amgylchedd
Un o'r syniadau gwreiddiol a leisiwyd gan rai o'r bobl leol oedd cael Gwefrydd Car Trydan wedi'i leoli'n ganolog.
Dewiswyd lleoliad Caffi’r Orsaf gan fod digon o le ond y gred yw y byddai hefyd yn dod â mwy o dwristiaid i’r pentref. Mae manteision mawr hefyd o ran yr amgylchedd gan mai ceir trydan yw dyfodol teithio tebygol.
​
Gweithdy Atgyweirio
Dysgu Sgiliau Newydd
Mae gwaith coed, uwch-gylchu a gwau yn rhai syniadau y mae pobl wedi dangos diddordeb ynddynt ond gallai fod llawer o sgiliau eraill y mae pobl yn fodlon eu rhannu neu yr hoffent eu dysgu neu roi cynnig arnynt.
​
Mae canolfan atgyweirio/caffi atgyweirio rheolaidd lle gallai pobl o bob oed ddod i rannu a dysgu'r sgiliau i drwsio eu heitemau cartref eu hunain yn syniad arall a allai gael rhywfaint o sylw.
​Gwirfoddoli i Helpu
Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i ymuno â’r grŵp a helpu i wneud ein pentref yn lle gwell. Gadewch eich manylion gyda ni ac ychydig am ba sgiliau a phrofiad y gallwch eu cynnig. Mae cyfleoedd ar gyfer pob lefel sgil.