top of page
DSCF7278.JPG

Bella Kennett

Ffôn:  07816 207 274

Ebost: gardd.llan@btinternet.com

  • w-facebook

Dechreuwyd y prosiect yn 2016 yn syniad cyffrous ar gyfer gwella safle oedd wedi’i esgeuluso a chreu Gardd Gymunedol ffafriol i fywyd gwyllt ar gyfer Llannerch-y-medd. Gan fod yr ardd wedi’i sefydlu bellach, y prif amcan yw ei chynnal a’i datblygu. Prosiect eleni (2020) oedd y gromen eodesig y gallwch ei gweld yng nghefn yr ardd (wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri). Mae’r gromen fawr bren, orchuddiedig yn lle hyfryd, golau â phosibiliadau enfawr: ar gyfer tyfu pethau, yn ofod gweithgareddau, neu ddim ond yn lle heddychlon, diddos ar gyfer eistedd a siarad. Mae gennym sawl gwely gosod ar gyfer tyfwyr/garddwyr unigol, felly gall pobl a all gael trafferth plygu i arddio fod â’u man tyfu eu hunain i’w ddefnyddio fel y mynnont.

  

Ni fyddem wedi dod cyn belled â hyn heb gymorth llawer o bobl a busnesau lleol sydd wedi rhoi amser, cyngor, deunyddiau a chymorth ymarferol. Felly diolch yn fawr i bawb.

Rydym wastad yn chwilio am syniadau ac ysbrydoliaeth newydd.

Mae arnom angen i ragor o bobl o’r pentref ymuno, cael hwyl, cyfarfod â phobl, a helpu creu a chynnal rhywbeth arbennig ar gyfer y gymuned. ’Does dim angen i chi fod yn arddwr er mwyn ymuno. Mae’r ardd ar agor i’r cyhoedd bob dydd heblaw’r Sul o 10 y bore i 4 y pnawn.

Garden-Logo.png

Ar hyn o bryd mae tua 10 - 15 o bobl â rhan o ryw fath, o chwynnu i godi gwlâu gosod a chynnwys plant lleol mewn gweithgareddau garddio. Mae croeso i unrhyw un o unrhyw oed, ond mae angen i blant ddod draw ag oedolyn. 

 

Mae pa mor aml ’rydym yn cyfarfod a’r hyn ’rydym yn ei wneud yn dibynnu ar adeg y flwyddyn, ond mae Bella yn yr ardd rhwng 2 a 4 pob pnawn Mercher gydol y flwyddyn. Mae croeso mawr i unrhyw un alw heibio i gynorthwyo neu ganfod rhagor. Gallwn weithio ag ymbellhau cymdeithasol addas yn yr awyr agored. Nid rhaid bod yn aelod er mwyn bod â rhan. 

 

Yn y gorffennol rydym wedi cynnal gweithdai crefftau, cystadleuaeth bwganod brain, achlysuron cerddorol a gweithgareddau plant. ’Roedd 2020 yn arbennig gan inni ennill gwobr ‘dewis y beirniaid’ yng nghystadleuaeth genedlaethol Miracle Gro, am ein harddangosfa liwgar ar yr hen injan drên. Dewch inni obeithio y gallwn ailddechrau ein digwyddiadau. Gwyliwch y gofod hwn!

bottom of page