Bu CP Llannerch-y-medd yn chwarae ers blynyddoedd lawer, ac y mae’n parhau i wneud. Mae’r tîm yn chwarae gartref yn Nhan Parc. Buom yn glwb llwyddiannus iawn yn ddiweddar, gan ennill sawl cwpan, tlws a dyrchafiad. Ein tymor mwyaf llwyddiannus fu 2013/14, pan enillasom dair cystadleuaeth - Cynghrair Gwynedd a dwy gwpan - i’w wneud yn un o dymhorau mwyaf llwyddiannus erioed y clwb.
Yn dilyn y llwyddiant hwn, enillodd y clwb ddyrchafiad i gynghrair y Welsh Alliance, lle chwaraeodd yn wych am y 4-5 tymor y bu’n aelod ohoni. Ers hynny mae wedi disgyn yn ôl i Gynghrair Gwynedd, ond mae’n ailadeiladu tîm cryf eto efo cymysgedd o chwaraewyr lleol ifanc a phrofiadol, awyddus i fynd â’r clwb yn ôl i uchelfannau tymhorau diweddar. Mae CPD Llannerch-y-medd yn glwb fu’n agos iawn at y gymuned erioed, a bydd felly am flynyddoedd lawer i ddod.
Mae 7 aelod ar bwyllgor y clwb ar hyn o bryd, gan gynnwys Cadeirydd a’r Trysorydd (Elwyn Hughes) a’n Hysgrifennydd (John Jukes) fu â rhan yn y clwb ers blynyddoedd lawer ac sy’n brofiadol eithriadol.
Mae oed y tîm presennol rhwng 16 a 40, ac ’rydym yn hyfforddi’n wythnosol yn Nhan Parc gydol yr haf, ac yna ar 3G Plas Arthur, Llangefni yn y gaeaf pan fo angen llifoleuadau.
Sefydlwyd y clwb yn ei wedd bresennol yn 2000, er y bu timau yn y pentref ers degawdau. Golyga’r sefyllfa bresennol mai ychydig iawn o gemau a chwaraeir, ac nid oes achlysuron o bwys, ysywaeth, ond bydd y clwb mor weithredol ag erioed cyn gynted ag y gallwn.