top of page

Grwpiau Lleol

Dyma rai o grwpiau a chymdeithasau cymunedol presennol Llan. Cliciwch ar eu logos i ganfod yr hyn y maen nhw’n ei wneud a sut mae ymuno. 

 

Os ydych yn aelod o grŵp neu gymdeithas nas rhestrir, cysylltwch â ni a gallwn eu hychwanegu at y wefan.

logo coloured.png

​Rydym yn safle rhandiroedd hunan-reoledig efo 15 rhandir ar gael i drigolion Llannerch-y-medd a’r cylch.

Bowls-Logo.png

​Bu Clwb Bowlio Llannerch-y-medd ar gau am hydoedd, ond yn ddiweddar mae wedi ailddechrau o ganlyniad i ddiddordeb yn y pentref. Rydym yn cyfarfod tua dwywaith yr wythnos ar ddyddiau Mercher ac Iau yn y llain fowlio i chwarae gêm neu ddwy.

Garden-Logo.png

Dechreuwyd y prosiect yn 2016 yn syniad cyffrous ar gyfer gwella safle oedd wedi’i esgeuluso a chreu Gardd Gymunedol ffafriol i fywyd gwyllt ar gyfer Llannerch-y-medd. Gan fod yr ardd wedi’i sefydlu bellach, y prif amcan yw ei chynnal a’i datblygu.

Logo.png

​Crëwyd y Cyngor er mwyn helpu trwsio, cynnal a gwella mwynderau lleol a chysylltu rhwng y gymuned a’r Awdurdod Lleol. 

CPD-Logo.png

Bu CPD Llannerch-y-medd yn chwarae ers blynyddoedd lawer, ac y mae’n parhau i wneud. Mae’r tîm yn chwarae gartref yn Nhan Parc. Buom yn glwb llwyddiannus iawn yn ddiweddar, gan ennill sawl cwpan, tlws a dyrchafiad.

Hanes-Logo.png

Gobeithia’r grŵp ganolbwyntio ar hanes, treftadaeth ac archeoleg yr ardaloedd canlynol: Llannerch-y-medd, Llandyfrydog, Ceidio, Coedana a Charmel. Os pery diddordeb o ardaloedd eraill, gallem ehangu cylch yr ardal graidd. 

Logo.png

​’Rydym yn dîm pêl-droed ieuenctid yn Llannerch-y-medd, sydd â thri thîm cymysg o hogiau a gennod 5-11 oed ar hyn o bryd. ’Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi a gemau wythnosol. ’Rydym yn gysylltiedig â Chynghrair Pêl-droed Ieuenctid Môn a Chymdeithas Bêl-droed Glannau Gogledd Cymru. Ein hamcan yw dangos i blant ein cymuned a’r cyffiniau bwysigrwydd gwaith tîm, cydraddoldeb, cadw’n heini a dilyn cyfarwyddiadau.

Merched-Logo.png

​Mae Merched y Wawr Llannerch-y-medd yn cynnal nosweithiau lle’r ydym yn trafod amryw bethau fel hanes a lluniau lleol hanesyddol, neu lle mae aelodau’n arddangos gwaith celf. Mae amryw siaradwyr yn dod draw i gynnal trafodaethau arbenigol. Yn ogystal â hyn, mae gennym sesiynau arfer gwaith llaw, coginio, cwisiau, hobïau a llawer mwy. 

Party-Logo.png

​Bu inni sefydlu grŵp gan amcanu codi pres ar gyfer achosion teilwng lleol trwy bêl fonws wythnosol a misol, a pharti achlysur blynyddol ar y cae, gan ei gadw’n lleol yn bennaf, ar gyfer Ysgol Llannerch-y-medd, timau pêl-droed ieuenctid, ac yn y blaen. 

School Logo.png

Mae Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd yn ysgol gymuned Gymraeg sy’n darparu addysg ddwyieithog ar gyfer plant 3 - 11 oed mewn ardal amaethyddol. Mae wrth galon y gymuned, efo cysylltiadau agos rhwng y rhieni, busnesau lleol, cyrff crefyddol a’r Cyngor Cymuned.

​’Rydym yn gapel bach yng nghanol Llannerch-y-medd yn ymyl yr ysgol, a chynhaliwn wasanaeth pob bore Sul am 10:00 o’r gloch. Mae gwasanaeth ychwanegol am 5:30 yr hwyr, weithiau, os yw gweinidogion gwadd ar gael. Hyn gydol y flwyddyn ar wahân i fis Awst. 

Llan2.png
bottom of page