’Rydym yn dîm pêl-droed ieuenctid yn Llannerch-y-medd, sydd â thri thîm cymysg o hogiau a gennod 5-11 oed ar hyn o bryd. ’Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi a gemau wythnosol. ’Rydym yn gysylltiedig â Chynghrair Pêl-droed Ieuenctid Môn a Chymdeithas Bêl-droed Glannau Gogledd Cymru. Ein hamcan yw dangos i blant ein cymuned a’r cyffiniau bwysigrwydd gwaith tîm, cydraddoldeb, cadw’n heini a dilyn cyfarwyddiadau. ’Rydym yn annog y plant i ymuno gan ddefnyddio calonogi adeiladol ac yn cynnwys y rhieni gymaint ag y bo modd. Mae pob hyfforddwr ac aelod pwyllgor yn wirfoddolwr sydd yn dymuno’r gorau ar gyfer y plant. Mae dysgu sgiliau newydd a gallu eu defnyddio ar ac oddi ar y cae yn hollbwysig ar gyfer eu datblygiad, ac amcanwn iddynt gynnal eu sgiliau, eu hagwedd a’u gwaith caled wrth iddynt dyfu.
Ar hyn o bryd mae gennym 41 aelod o gyn ieuanged â 5 oed i fyny at 11. Nid yw hynny’n cynnwys yr holl hyfforddwyr a phawb arall sydd â rhan mewn sicrhau bod y clwb yn gweithredu’n ddidrafferth.
’Rydym yn hyfforddi ac yn chwarae ein gemau cartref ar gae pêl-droed Tan Parc, ac ar gae artiffisial yr ysgol gydol y gaeaf, gan ddefnyddio’r llifoleuadau. Hyfforddir unwaith yr wythnos am tuag awr, a chynhelir gêm yn ystod y penwythnos, fel arfer.
Mae aelodaeth yn £40 y plentyn, efo gostyngiad os yw rhagor nag un o deulu’n ymuno efo’r clwb